Mae’r record ar gyfer y diwrnod o Chwefror cynhesaf wedi cael ei thorri unwaith eto, ar ôl i’r tymheredd gyrraedd bron 21⁰C (69.8F) yng Ngwynedd.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, roedd hi’n 20.8⁰C (69.4F) yn nhref Porthmadog toc cyn 1.30yp heddiw (dydd Mawrth, Chwefror 26).

Dyma’r ail ddiwrnod yn olynol i’r tymheredd yng Nghymru – a gweddill gwledydd Prydain – godi uwchben 20⁰C (68F)yr wythnos hon.

Ar ddydd Llun (Chwefror 25), cofnodwyd tymheredd o 20.6⁰C (68.5F) erbyn diwedd y dydd yn Nhrawsgoed, Ceredigion, gan faeddu’r record flaenorol o 19.7⁰C (67.4F) yn Greenwich yn 1998.

Daw’r amodau cynnes union flwyddyn ers i’r tywydd oer – a gafodd ei lysenwi’n ‘Ddihiryn y Dwyrain’ – ddod â rhew ac eira i rannau helaeth o wledydd Prydain.

Dywed arbenigwyr mai’r un ffactorau sydd wedi achosi’r tywydd cynnes eleni, ond bod y gwasgedd uchel wedi dod o’r Iwerydd a Gogledd Affrica yn hytrach na’r Arctig.