Fe fydd ymchwiliad i ddamwain yr awyren a oedd yn cludo Emiliano Sala yn canolbwyntio ar drwydded y peilot, ymhlith materion eraill.

Mae’r Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB) wedi enwi “anghenion rheoliadol” yn un o’r pedwar maes sydd angen bod yn destun ymchwil mwy manwl.

Mae adroddiad cychwynnol y corff ymchwilio yn nodi nad oedd y peilot, David Ibbotson, 59, yn meddu ar drwydded ar gyfer hediadau masnachol.

Roedd y math o drwydded a oedd ganddo yn golygu bod rhaid iddo “gyflwyno rheswm dilys tros wneud y daith”, meddai’r AAIB.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi bod glaw trwm yn yr ardal adeg y ddamwain a bod yr awyren wedi plymio i’r môr am 8.16yh.

Y ddamwain

Roedd Emiliano Sala, 28, newydd arwyddo cytundeb gwerth £15m gyda Chlwb Pel-droed Caerdydd pan ddiflannodd yr awyren a oedd yn ei gludo ar Ionawr 21, a hynny tra oedd yn teithio uwchben y Sianel.

Yr ymosodwr o’r Ariannin oedd yr unig deithiwr ar fwrdd y Piper Malibu a oedd yn teithio o Nantes yn Llydaw i Faes Awyr Caerdydd.

Daethpwyd o hyd i’w gorff ar Chwefror 6, ond mae corff David Ibbotson, 59, o Crowle, Swydd Lincoln, yn parhau ar goll.

Mae teulu’r peilot yn gobeithio ailgychwyn ymdrechion i chwilio amdano yr wythnos hon ar ôl i gronfa ar-lein gasglu £250,000.

Mae’r awyren yn dal i fod ar waelod y môr, wrth i amodau tywydd rwystro unrhyw ymdrech i’w chodi.