Mi fydd Pont Tal y Cafn yng Nghonwy ynghau am bum wythnos i gerbydau a cherddwyr o heddiw (Dydd Llun, Chwefror 25) tan 4yh ddydd Gwener, Mawrth 29.

Yn ôl Cyngor Sir Conwy mae angen cynnal gwaith atgyweirio angenrheidiol ar y bont sydd wedi ei leoli ger Tal y Cafn ar lôn yr A470.

Fe fydd traffig yn cael ei arallgyfeirio gydag arwyddion ar gael ac ni fydd y gwaith yn atal mynediad i dafarn Tal y Cafn. Mi fydd yn rhaid i gerbydau sydd am groesi’r afon deithio i Gonwy neu Lanrwst.

Mae’r gwaith yn cynnwys gosod wyneb gwrth-ddŵr newydd, ailosod uniadau, uwchraddio’r draeniau, trwsio’r concrit, a rhoi wyneb newydd arno.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud gan gwmni M.W.T Civil Engineering.