Mae ymgyrchwyr iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu wrth i ymprydwyr geisio dod â charchariad arweinydd Cwrdaidd i ben.
Ymhlith yr ymprydwyr mae Imam Sis, 32, sy’n byw yn ninas Casnewydd ers pum mlynedd ac wedi bod yn ymprydio ers cyfnod o fwy na deufis.
Mae ei safiad yn rhan o ymgyrch ymprydio ryngwladol sy’n cynnwys y gwleidydd, Leyla Güven, 15 ymprydiwr yn Stasbwrg ac o leiaf 60 mewn carchardai yn Nhwrci.
Y nod yw sicrhau bod Abdullah Öcalan, arweinydd Plaid Gweithwyr Cwrdistan, yn cael ei ryddhau wedi ugain mlynedd o fod dan glo.
Mae cefnogwyr yr ymgyrch yn ymprydio am ddiwrnod yn y Ganolfan Gymunedol Cwrdaidd yng Nghasnewydd heddiw (dydd Llun, Chwefror 25).
Galwadau
Mae Cymdeithas yr Iaith yn ategu galwadau Senedd Gwrdaidd Cymru ac Imam Sis, sy’n mynnu:
- bod y Pwyllgor Atal Artaith yn ymweld â Charchar Imrali er mwyn cadw golwg ar amodau carchariad Abdullah Öcalan;
- bod Llys Hawliau Dynol Ewrop yn gweithredu yn erbyn Llywodraeth Twrci sy’n torri hawliau dynol Abdullah Öcalan;
- bod Llywodraeth Cymru yn galw ar y Pwyllgor Atal Artaith a Llys Hawliau Dynol Ewrop i weithredu;
- bod Llywodraeth Cymru yn gwrthsefyll unrhyw weithredu milwr gan Wladwriaeth Twrci, neu sydd wedi’i gynllunio ganddi, yn Ffederasiwn Ddemocrataidd Syria.
“Cyd-sefyll”
Yn ôl Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, mae’r ffaith bod un o ddinasyddion Cymru yn barod i weithredu yn dangos “difrifoldeb y sefyllfa”.
“Mae Abdullah Öcalan yn diodde carchariad unigol ers cael ei arestio ugain mlynedd yn ôl – mae hyn yn cael ei ystyried yn ffurf ar arteithio,” meddai.
“Dydy ei gyfreithwyr ddim wedi cael ymweld â fe ers 2011, a dydy ei deulu ddim hyd yn oed yn cael ei weld yn rheolaidd.”
“Mae dod â charchariad Abdullah Öcalan i ben yn hanfodol i ddatrys y ‘Cwestiwn Cwrdaidd’, ac i heddwch yn y Dwyrain Canol.
“Mae’n bwysig bod gwledydd fel Cymru yn gwneud ein rhan i sicrhau cyfiawnder yn y byd – gofynnwn i Lywodraeth Cymru godi llais a galw am ymyrraeth y Pwyllgor Atal Artaith a Llys Hawliau Dynol Ewrop.”