Fe fydd adroddiad dros dro yn cael ei gyhoeddi heddiw (dydd Llun, Chwefror 25) i achos y ddamwain awyren pan gafodd pêl-droediwr Caerdydd Emiliano Sala ei ladd.

Mae disgwyl i’r Gangen Ymchwiliadau i Ddamweiniau Awyr (AAIB) gyhoeddi eu casgliadau cychwynnol heddiw am 2yp.

Roedd Emiliano Sala newydd arwyddo i Glwb Pêl-droed Caerdydd am £15m pan fu farw mewn awyren fechan oedd yn hedfan o Nantes i Gaerdydd ar Ionawr 21.

Cafodd y peilot David Ibbotson, 59, o Swydd Lincoln hefyd ei ladd yn y ddamwain.

Cafodd corff Emiliano Sala ei godi o’r dŵr ar Chwefror 6 ond nid yw corff David Ibbotson wedi cael ei ddarganfod hyd yn hyn.

Mae ei deulu yn gobeithio y bydd y chwilio amdano yn ail-ddechrau’r wythnos hon ar ôl iddyn nhw godi £250,000 mewn ymgyrch ar-lein.

Mae’r awyren yn parhau ar wely’r môr ger Guernsey ar ôl i ymdrech i’w chodi gael ei ohirio oherwydd tywydd gwael.