Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion ar ôl i gerddwr gael ei daro gan lori yn Sir Gaerfyrddin.
Fe ddigwyddodd ar ffordd A48 i gyfeiriad y dwyrain ger cyffordd Cwmgwili am oddeutu 1.22 fore heddiw (dydd Sul, Chwefror 24).
Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.