Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn marwolaeth dyn 50 oed mewn gwrthdrawiad ym Mannau Brycheiniog.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dyn a char Hyuandai Terracan ar ffordd gefn rhwng Dolygaer a Phonsticill am tua 6.30yh neithiwr (nos Wener).

Bu farw David Jonathan Bown yn y fan a’r lle, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaeth ambiwlans i’w achub.

Mae swyddogion cyswllt teulu nawr yn rhoi cefnogaeth i deulu Mr Bown.

Bu’n rhaid cau’r B4558 yn Talybont am gyfnod. Darganfuwyd y cerbyd ac ail-agorwyd y ffordd am 11.30yh.

Mae’r heddlu’n annog unrhyw un fu’n teithio ar hyd y ffordd neithiwr a welodd y gwrthdrawiad neu rywun yn cerdded yn yr ardal i gysylltu â’r uned plismona’r ffyrdd drwy ffonio 101.