Fe enillodd Andrea Gibson o Blaid Cymru is-etholiad yn ward Caerau yng ngorllewin Caerdydd neithiwr (dydd Iau, Chwefror 21).

Dydi’r Blaid erioed wedi cael cynghorydd yng Nghaerau o’r blaen – a tan yn ddiweddar doedd y canran o bleidleisiau iddyn nhw ddim yn codi’n uwch na 5%.

Fodd bynnag, y tro yma fe lwyddodd y blaid i ddenu 43% o’r bleidlais.

Mae ward Caerau o fewn etholaeth Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, ac mae Plaid Cymru yn llygadu ei sedd yn y Cynulliad.

Mae’r canlyniad “yn mynd i newid y gêm” yng Nghaerdydd meddai Aelod Seneddol Canol De Cymru, Neil McEvoy, wrth golwg360.

“Rydyn ni wedi rhoi rhybudd i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, nawr – a’r ymgyrch yw cael gwared arno yn 2021.’

“Rhwygo peiriant y Blaid Lafur”

Mae Neil McEvoy yn credu fod gan y canlyniad yma oblygiadau pellach i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

“Beth sy’n digwydd yng ngorllewin Caerdydd yw bod y bleidlais [i Blaid Cymru] yn dyblu ym mhob man.

“Roeddwn i’n hyderus iawn ar ddechrau’r ymgyrch y byddwn ni’n ennill,” meddai Neil McEvoy.

Mae’n dweud y bydd etholiadau cyffredinol 2021 “yn refferendwm ar record Llafur ers datganoli”.

“Mae pobol yn gweld bod Mark Drakeford wedi bod yn ffigwr blaenllaw dros y cyfnod hwnnw,” meddai wedyn.

Mae Neil McEvoy yn mynnu yna gyfle “nid yn unig i guro’r Prif Weinidog yn 2021, ond i rwygo peiriant y blaid Lafur yma yng Nghaerdydd”.