Mae perchnogion cartref gofal wnaeth wahardd eu gweithwyr rhag siarad Cymraeg, yn dweud y byddan nhw yn “adolygu’r penderfyniad”.

Yn ôl y Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, mae wedi gweld tystiolaeth bod yna “efallai… achos o ymyrryd â rhyddid y staff i ddefnyddio’r Gymraeg” yng nghartref Isfryn yn Ystradgynlais, ac mi fydd hi’n cynnal ymchwiliad.

Rheolwyr y cartref yw’r darparwyr iechyd, Accomplish, sy’n cynnig gofal i bobol sydd wedi derbyn anafiadau i’w hymennydd.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi gofyn i staff siarad Saesneg yn unig â chleifion rhag ofn y byddai siarad mewn iaith arall yn achosi “dryswch a gofid”.

“Heriau cyfathrebu”

“Mae gan y bobol yr ydyn ni’n eu cefnogi yn Isfryn heriau cyfathrebu ac ar hyn o bryd yn deall Saesneg yn unig,” meddai Accomplish, sydd hefyd yn dweud eu bod nhw’n cynnig hyfforddiant yn Gymraeg ac yn cynnig cwrs i gyflwyno’r iaith i’w staff.

“Gan mai Isfryn oedd eu cartref, roedd yna ystyriaeth y byddai’r bobol yr ydyn ni’n eu cefnogi ddim yn deall pam bod staff yn siarad iaith wahanol na’r Saesneg, ac y byddai gwneud hynny’n achosi dryswch a gofid a all effeithio ar eu hiechyd a’u hadferiad.

“Rydyn ni’n adolygu’r penderfyniad a gafodd ei wneud gan y gwasanaeth unigol hwn ac yn cydweithio’n agos gyda chydweithwyr a’r awdurdodau perthnasol er mwyn dod o hyd i ddatrysiad positif i bawb.”

Maen nhw hefyd yn ategu na fyddai unrhyw aelod o staff yn Isfryn wedi cael eu disgyblu am siarad Cymraeg.

Torri’r gyfraith

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn cyfeirio at Fesur y Gymraeg sy’n nodi bod hawl gan ddau neu fwy o bobol y rhyddid i siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg.

“Os yw rhywun, er enghraifft cyflogwr, yn dweud wrthynt na ddylent barhau i ddefnyddio’r Gymraeg, mae’n bosib eu bod yn amharu ar y rhyddid hwnnw,” meddai Meri Huws.

“Mae Mesur y Gymraeg yn rhoi pwerau statudol i mi fel Comisiynydd i ymchwilio i achosion o’r fath.”

“O’r dystiolaeth rwyf wedi ei gweld heddiw, mae’n ymddangos efallai fod yna achos o ymyrryd â rhyddid y staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn Isfryn, Accomplish.

“Byddaf yn cysylltu â sefydliad i gasglu mwy o wybodaeth er mwyn deall y sefyllfa yn llawn. Hefyd, hoffwn annog unrhyw un sy’n cael ei effeithio i gysylltu â’m swyddfa er mwyn inni allu ymchwilio’n llawn i’r mater.”

Gwahardd y Gymraeg – “hollol annerbyniol”

Yn ôl Wyn Williams, Cadeirydd Rhanbarth Morgannwg Gwent, Cymdeithas yr Iaith, mae’n “hollol annerbyniol” gwahardd pobol rhag siarad Cymraeg.

“Rydyn ni’n falch bod Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio,” meddai.

“Wrth ystyried y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg, mi ddylai cyflogwyr sicrhau bod gyda nhw adnoddau a pholisïau mewnol sy’n hybu defnydd y Gymraeg yn y gweithle, nid ei gwahardd.”