Mae’r Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymchwilio i Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), yn apelio am dystion yn dilyn marwolaeth dyn gafodd ei arestio.

Bu farw Paul Wilson, oedd yn 55 oed, yng ngorsaf gwasanaethau Llaneurgain ar lôn yr A55 ar ddydd Mawrth (Chwefror 12) am tua wyth y bore.

Roedd wedi cyrraedd yno mewn car heddlu oedd heb ei farcio wedi iddo gael ei arestio yn y Fflint.

Yn ystod y daith i’r orsaf heddlu, aeth Paul Wilson yn sâl, felly penderfynodd yr heddlu anelu yn syth am yr ysbyty – ond fe waethygodd ei gyflwr felly aeth yr heddlu i wasanaethau Llaneurgain er mwyn rhoi cymorth meddygol iddo.

Cafodd ei Paul Wilson ei ddad-arestio, cafodd ambiwlans ei alw, ac fe barhaodd yr heddlu i geisio’i achub. Ond bu farw Paul Wilson yno am wyth y bore.

Mae ymchwilwyr wedi cychwyn hel tystiolaeth ac maen nhw’n ceisio cael hyd i berson wnaeth roi cymorth i’r heddlu wrth geisio achub y dyn.

Agorwyd cwest gan Grwner ar ddydd Llun (Chwefror 18). Fe ddangosodd archwiliad post mortem mai achos y farwolaeth oedd methiant yn yr ysgyfaint o ganlyniad i ordewdra.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i  e-bostio – northopa55@policeconduct.gov.uk