Mae Prifysgol Bangor yn cynnal ymgynghoriad ar eu bwriad i ‘golli un swydd gyfystyr â llawn amser ar lefel Athro’ yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, a ‘chynyddu y ddarpariaeth yn y maes Astudiaethau Celtaidd’.

Yn ôl y Brifysgol, byddai hyn yn ei galluogi ‘i ehangu ei phortffolio o bynciau academaidd arbenigol’ ac fe fyddai yn gyfle i ‘gymryd mwy o berchnogaeth o’r term “Celtaidd” sy’n adnabyddus ar draws y byd’.

Ond mae ymgyrchwyr iaith yn anhapus gyda’r syniad o leihau nifer y staff yn adran Gymraeg y Brifysgol.

“Rydym yn erfyn ar y Brifysgol i newid ei meddwl,” meddai Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae addysgu’r Gymraeg mewn prifysgolion yn hollbwysig i ffyniant yr iaith.

“Mae unrhyw dorri ar y ddarpariaeth yna yn ergyd i’r iaith a’r gwaith o gyrraedd miliwn o siaradwyr.

“Wedi’r cwbl, nhw sy’n cynhyrchu’r siaradwyr mwyaf huawdl a medrus sy’n gallu addysgu’r cenedlaethau i ddod.

“Yn gynyddol, rydym yn gweld prifysgolion yn ceisio ateb anghenion y farchnad yn hytrach nag anghenion Cymru a’r gymuned leol.

“Mae angen i’r Llywodraeth ail-edrych ar sut maen nhw’n cefnogi’r sefydliadau hyn sy’n ymddwyn yn gynyddol fel busnesau yn hytrach na sefydliadau addysg.”

Pam cael gwared ar y swydd?

Yn ôl dogfen o’r enw Yr Achos Busnes dros Newid sydd wedi dod i law golwg360, dyma reswm y Brifysgol tros leihau staff Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd:

‘Mae lleihau nifer y staff o 1 ar lefel Athro yn seiliedig ar ddadansoddiad o gymarebau staff/myfyrwyr (sy’n isel o gymharu â meysydd pwnc eraill yn y Brifysgol) ac amcanestyniadau recriwtio.’

Ac wrth drafod y manteision, mae’r ddogfen yn nodi:

‘Bydd incwm newydd o recriwtio i gyrsiau Astudiaethau Celtaidd. Ennill mwy o grantiau ymchwil.

‘Gellir lleihau nifer y modiwlau heb niweidio’r profiad a gaiff myfyrwyr, gan wneud yr Ysgol yn fwy effeithlon i ddiwallu gofynion y dyfodol.’

‘Risgiau’

Mae’r ddogfen ymgynghorol hefyd yn sôn am y ‘risgiau’ sy’n rhaid ystyried wrth benderfynu cwtogi, ac mae’r rhain yn cynnwys:

‘Morâl isel ymysg staff a methu â dal gafael ar staff…

‘Tarfu ar addysgu ac ymchwil o ddydd i ddydd gan arwain at brofiad gwael i staff a myfyrwyr…

‘Colli arbenigedd a gwybodaeth wrth golli staff profiadol…

‘Mae peth risg ynghlwm wrth ehangu yng Ngogledd America gan y byddai methu â recriwtio yn golygu adnoddau wedi’u gwastraffu o ran amser a theithio…’

Bydd y Brifysgol yn ymgynghori gyda staff, undebau llafur a rhan-ddeiliaid eraill.