Mae ymgyrchwyr iaith yn dweud ei bod hi’n “ddiwrnod trist iawn” i Gymru yn dilyn y cyhoeddiad bod 34 o staff technegol S4C yn symud i gyflogaeth y BBC yr wythnos nesaf (dydd Llun, Chwefror 25 ymlaen).

Mae’r cam yn rhan o baratoadau ar gyfer trosglwyddo’r cyfrifoldeb am “ddarlledu a dosbarthu S4C” i’r BBC o 2020 ymlaen, pan fydd y sianel yn rhannu adeilad gyda’r gorfforaeth yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.

Yn ôl Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, bydd hyn yn “sicrhau gwasanaeth o safon uchel” i S4C, yn ogystal â “chryfhau’r ystod o sgiliau ac arbenigedd ar draws gwasanaethau technegol a darlledu.”

Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi eu siom wrth i S4C “golli ei allu i fod yn ddarlledwr annibynnol”.

Maen nhw’n ychwanegu bod y datblygiad yn amlygu “gwir natur ymerodraethol” y BBC, yn ogystal â chodi cwestiynau ynglŷn â pham bod S4C wedi bodloni ar gytundeb o’r fath.

Datganoli darlledu – “yr unig ateb”

“Dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru,” meddai Heledd Gwyndaf, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith.

“Dyna’r ffordd i adfer plwraliaeth yn ein cyfryngau Cymraeg a Chymraeg ac i warchod y Gymraeg a’n democratiaeth.

“Gyda’r pŵer i reoli darlledu yng Nghymru, bydd modd ail-sefydlu gallu technegol S4C i ddarlledu eu rhaglenni eu hunain o’i phencadlys newydd yng Nghaerfyrddin.”