Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf y penwythnos hwn.

Mae disgwyl i’r aelodau ddod ynghyd heddiw (dydd Gwener, Chwefror 22) ar gyfer sesiwn groeso a thorri’r iâ ffurfiol yn y Cynulliad yng Nghaerdydd.

Cafodd y 60 aelod eu hethol ym mis Tachwedd y llynedd, gyda 40 aelod yn cynrychioli etholaethau Cymru, ac 20 aelod arall wedi’u hethol gan sefydliadau partner.

Bydd iechyd meddwl a lles emosiynol ymhlith y prif bynciau trafod yng nghyfarfod llawn cyntaf y Senedd yfory (dydd Sadwrn, Chwefror 23).

Bydd y cyfarfod hwnnw yn cael ei arwain gan Lywydd y Cynulliad, Elin Jones.