Fe fydd 34 o aelodau staff technegol S4C yn trosglwyddo i gyflogaeth y BBC yr wythnos nesaf (dydd Llun, Chwefror 25 ymlaen), wrth i’r Gorfforaeth ddod yn gyfrifol am ddarlledu a dosbarthu’r sianel.

Mae disgwyl i S4C symud i’r un adeilad newydd sbon â’r BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, ar ddechrau 2020. O hynny ymlaen, bydd y BBC yn gyfrifol am “ddarpariaeth S4C ar y teledu ac ar-lein”, yn ogystal â bod yn gyfrifol am weddill isadeiledd technegol y sianel.

Yn ôl S4C, fe fyddan nhw’n parhau i gomisiynu ac amserlennu, yn ôl yr arfer, gyda’r pencadlys yng nghanolfan Yr Egin, Caerfyrddin, a swyddfeydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd.

Bydd tua 25 aelod o staff S4C yn gweithio o’r ganolfan yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, gan gynnwys yr adran Cyflwyno, Hyrwyddo a Masnachol.

“Sicrhau gwasanaeth o safon uchel”

Mae Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, wedi diolch i’r staff sy’n gadael, gan gynnwys nifer fawr sydd wedi “rhoi oes o wasanaeth” i S4C.

“Rhwng dydd Llun a 2020 bydd y staff yma’n parhau i sicrhau fod cynnwys S4C yn cyrraedd ein gwylwyr o Barc Tŷ Glas,” meddai.

“Yna yn 2020 bydd cyfnod newydd yn cychwyn ble bydd ein holl wasanaethau technegol wedi eu lleoli yn y Sgwâr Canolog. Mae yna lawer o waith i’w wneud cyn hynny, ond rwy’n gwybod y byddwn yn gallu dibynnu ar y staff ymroddedig yma.”