Mae dyn, 31, wedi marw yn dilyn digwyddiad yn nhref Caerfyrddin ddoe (dydd Mercher, Chwefror 20).

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Teras Francis toc cyn 10yb, lle daethon nhw o hyd i ddyn wedi ei anafu’n ddifrifol. Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach.

Mae ymholiadau’n cael eu cynnal er mwyn gwybod beth oedd achos y farwolaeth, meddai’r heddlu.

Maen nhw hefyd yn dweud bod dynes, 28, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.

“Mae yna bresenoldeb uchel gan yr heddlu yn yr ardal heddiw fel rhan o’r ymchwiliad i wybod beth ddigwyddodd,” meddai llefarydd.