Mae Aelod Seneddol o Gymru wedi cael ei gyhuddo o ffugio dogfennau er mwyn derbyn treuliau seneddol.
Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, fe wnaethon nhw dderbyn gwybodaeth gan yr Heddlu Metropolitan sy’n ymwneud â’r honiad bod Christopher Davies, yr aelod Ceidwadol tros Frycheiniog a Maesyfed, wedi ffugio dwy anfoneb er mwyn cefnogi ceisiadau ar gyfer treuliau.
Mae’r gwleidydd bellach wedi ei gyhuddo o ddau achos o ffugio ac un achos o ddarparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol er mwyn derbyn lwfans.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster ar Fawrth 22.