Mae Llywodraeth Cymru yn addo £500,000 y flwyddyn i gefnogi cynlluniau i fynd i’r afael ag achosion o hunanladdiad a hunan niweidio.

Mae £644m wedi cael ei wario ar iechyd meddwl yn ystod blwyddyn ariannol 2018-2019.

Ar hyn o bryd mae o gwmpas 300 i 350 o fywydau bob blwyddyn yn cael eu colli o ganlyniad i hunanladdiadau.

Mae strategaeth Talk to Me 2 wedi arwain at ffocws cynyddol ar gydweithio i atal hunanladdiadau ar draws Cymru.

Y targedau

Bydd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn datgan yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 20) y targedau newydd sydd gan y llywodraeth i geisio atal a lleihau’r nifer yr hunanladdiadau.

Mae’r rhain yn cynnwys recriwtio arweinwyr cenedlaethol a rhanbarthol ar draws Cymru; cefnogaeth i’r rhai sy’n galaru ar ôl hunanladdiad ac adolygiad o sut mae gwella hyn; ynghŷd â hyfforddiant ar atal hunanladdiad i staff ar draws y sector gyhoeddus.

Ar ben hynny, mae bwriad i wella ymwybyddiaeth ac argaeledd adnoddau gan gynnwys gwasanaethau Help at Hand a Talk to Me a chyllid i gefnogi rhaglenni a mentrau sydd eisoes wedi profi i fod yn llwyddiannus.