Mae dyn wedi’i gael yn euog o drywanu dyn i farwolaeth yn Nhredegar Newydd, Cwm Rhymni y llynedd.

Roedd Ieuan Harley, 23, wedi llofruddio David Gaut ar ôl darganfod ei fod wedi’i garcharu am ladd bachgen 15 mis oed yn 1985.

Yn Llys y Goron Casnewydd heddiw (dydd Llun, 18 Chwefror) cafwyd David Osborne, 51, cymydog David Gaut, yn ddieuog o lofruddiaeth neu ddynladdiad ar ôl iddo gael ei gyhuddo o fod yn rhan o’r digwyddiad.

Cafwyd Ieuan Harley a Darran Evesham, 47, hefyd yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Roedd David Osborne eisoes wedi pledio’n euog i’r cyhuddiad yma cyn i’r achos ddechrau.

Trywanu

Clywodd y llys bod David Gaut wedi cael ei ladd ar 2 Awst y llynedd ar ôl i’w gymdogion yn Nhredegar Newydd ddarganfod ei fod wedi treulio 32 mlynedd dan glo am ladd Chi Ming Shek yn 1985.

Cafodd ei drywanu 150 o weithiau tra roedd dal yn fyw ac yna 26 gwaith wedi iddo farw.

Mae’r tri dyn yn cael eu cadw yn y ddalfa ac fe fyddan nhw’n cael eu dedfrydu ar 25 Mawrth.