Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cynlluniau i ddatblygu 115 o leoliadau gofal plant ledled Cymru.

Bydd y cyfleusterau’n cael eu datblygu fel rhan o fuddsoddiad gwerth £60m yn y sector gofal plant.

Yn ôl llefarydd ar ran  Llywodraeth Cymru, mae Cynnig Gofal Plant yn cael ei gyflwyno ledled Cymru ar hyn o bryd, a bydd ar gael yn genedlaethol erbyn y flwyddyn nesaf.

Mae’r cynnig yn cynnwys 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal am ddim i blant tair a phedair oed, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae dros 5,000 o blant eisoes yn manteisio ar y cynnig, meddai’r llefarydd ymhellach.

Buddsoddi

Bydd y prosiectau sy’n derbyn cyllid yn canolbwyntio’n bennaf ar sicrhau bod addysg a gofal plant yn cael eu darparu ar yr un safle.

Bydd y cyllid naill ai’n helpu i sefydlu lleoliadau gofal plant newydd neu’n adnewyddu lleoliadau sydd eisoes yn bodoli.

Mae yna gyllid wedi ei roi yn nwylo’r awdurdodau lleol hefyd, er mwyn gweithredu’r Cynllun Grantiau Bach yn eu hardal.

Nod y cynllun hwn yw galluogi darparwyr gofal plant preifat a gwirfoddol i gael gafael ar hyd at £10,000 o gyllid er mwyn cynnal gwaith ar eu safle.

Gofal plant ledled Cymru

“Bydd ein buddsoddiad yn sicrhau bod y Cynnig Gofal Plant ar gael i rieni ledled Cymru trwy sicrhau bod darpariaeth gofal plant ddigonol ar gael yn yr ardaloedd priodol, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu darpariaeth newydd mewn ardaloedd lle mae prinder gwasanaethau gofal plant ar hyn o bryd, yn enwedig ardaloedd gwledig ac ardaloedd difreintiedig,” meddai’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

“Hefyd, bydd y buddsoddiad yn cefnogi twf a chynaliadwyedd y sector gofal plant ledled Cymru, gan helpu i greu swyddi o ansawdd uchel yn y sector.”

Hwb i’r Gymraeg?

Mae 47% o’r grantiau, sef gwerth £33m, wedi ei neilltuo ar gyfer lleoliadau gofal plant cyfrwng Cymraeg.

Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi croesawu’r cam hwn wrth iddo helpu gyda’r nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Bydd hyn yn golygu bod lleoliadau cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli yn gallu ehangu ystod eu gwasanaethau, a bydd yn darparu cyfleusterau ar gyfer lleoliadau newydd, gan alluogi mwy o blant i ddechrau dysgu Cymraeg.”