Bydd y teithiau awyren rhwng Caerdydd ac Ynys Môn yn parhau am bedair blynedd arall, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r cwmni Eastern Airways wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth ers mis Mawrth 2017, ac mae contract newydd yn golygu y byddan nhw’n parhau am y blynyddoedd i ddod.

Yn ôl Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, mae Eastern Airways yn rhannu’r un dyheadau â Llywodraeth Cymru i “dyfu’r llwybr yn sylweddol dros y pedair blynedd nesaf”.

“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn cynnwys Eastern Airways yn gweithredu ei Jetstream 41 ar ei gapasiti llawn o 29 o seddi. Mae hyn yn 50% mwy o seddi nag y mae’n gallu eu cynnig ar hyn o bryd,” meddai.

“Byddai’r cynnydd hwn yn amodol ar Lywodraeth Prydain yn cytuno i Faes Awyr Ynys Môn gael ei ailddosbarthu. Byddai hyn yn galluogi defnyddio capasiti llawn yr awyrennau mwy, gan helpu i ddod â chyfleoedd cyffrous ar gyfer cynnydd i’r ardal.”

Ychwanega Ken Skates fod yr angen i gynyddu capasiti ar y llwybr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd wedi cael ei “ddangos yn glir” dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Gydag effeithlonrwydd gwell a chynhyrchiant uwch o ganlyniad i refeniw ychwanegol gan deithwyr, byddai’r capasiti uwch hwn yn arwain at y cymhorthdal yn cael ei leihau dros bedair blynedd y contract, o gymharu â’r sefyllfa pe baen ni’n parhau i weithredu gydag 19 sedd.”