Roedd Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, a’r prif weithredwr Ken Choo ymhlith y galarwyr yn angladd Emiliano Sala yn yr Ariannin ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 16).

Roedden nhw’n cynrychioli’r Adar Gleision yn y gwasanaeth cyhoeddus yn Progreso. Fe fydd ei weddillion yn cael eu hamlosgi mewn gwasanaeth preifat yn Santa Fe heddiw (dydd Sul, Chwefror 17).

Roedd y ddau yn gwisgo cennin pedr.

Fe symudodd i Gaerdydd o Nantes yn Llydaw am £15m ddyddiau’n unig cyn iddo gael ei ladd.

Ond fe blymiodd ei awyren i’r môr ar Ionawr 21, ac fe gafwyd hyd i’w gorff ar Chwefror 7.

Mae’r peilot David Ibbotson yn dal ar goll, ac mae dros £240,000 wedi cael ei godi er mwyn parhau i chwilio amdano.