Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud eu bod yn gofidio am Steven Lee Ancill, 45, sydd ar goll o ardal Deganwy ger Llandudno.

Mae’n 5’5″ ac mae ganddo wallt brown.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn o gorffolaeth denau sy’n gwisgo sbectol.

Pan aeth ar goll, roedd e’n gwisgo siwmper lwyd, jeans glas tywyll, esgidiau glas a brown a chôt parka las tywyll.

Dylai unrhyw un sy’n ei weld ffonio’r heddlu ar 101 neu anfon unrhyw ddeunydd fideo dashcam o ardal y Gogarth atyn nhw.