Mae dyn 23 oed wedi’i gyhuddo o fod ag arf mewn lle cyhoeddus, yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i ganol y brifddinas ddydd Gwener, yn dilyn adroddiadau bod gan ddyn gyllell yn ei feddiant.

Mae Hubert Konieczny wedi’i ryddhau ar fechnïaeth, ac fe fydd yn mynd gerbron ynadon Caerdydd ar Fawrth 6.