Mae ail ddyn wedi cael ei arestio yn dilyn ymosodiad ar blismon yng Ngheredigion ddydd Sadwrn, Chwefror 9.

Cafodd y dyn 24 oed ei arestio yn Sussex, lle mae’n cael ei holi gan blismyn o Heddlu Dyfed-Powys.

Bu’r heddlu’n chwilio amdano ers wythnos, wedi i ddau ddyn ymosod ar blismon wrth iddo stopio eu car yn Synod Inn.

Mae Wayne Dobson, 29, eisoes wedi’i gyhuddo o ymosod gan achosi niwed corfforol, difrod troseddol, dwyn cerbyd drwy ddefnyddio trais a difrod i gerbyd, a dau achos o symud cerbyd heb ganiatâd y perchennog.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, ac mae’r heddlu wedi diolch i’r gymuned am eu hamynedd, gan ddweud eu bod yn “deall eu pryder”.