Mae disgyblion ysgol wedi bod yn gwrthdystio tu allan i’r Senedd  ar brynhawn dydd Gwener (Chwefror 15) gan alw am weithredu tros yr amgylchedd.

Mae’r brotest ym Mae Caerdydd yn cyd-daro â phrotestiadau tebyg yng ngweddill y Deyrnas Unedig, ac wedi cael ei ysbrydoli gan wrthdystio ar y cyfandir.

Yn ôl Beth Irving, 17, trefnydd y brotest yng Nghymru, roedd tua 200 o ddisgyblion yno yn galw ar y Llywodraeth i “gymryd cyfrifoldeb, a mynd i’r afael ag argyfwng yr amgylchedd”.

“Does dim dewis gyda ni,” meddai wrth golwg360. “Rhaid i ni dalu sylw i’r mater. Mae pethau yn mynd i waethygu yn barhaus i ni, a’n plant, a’n wyrion ac wyresau.

“Dylai pobol fod wedi talu sylw i hyn yn gynharach – y genhedlaeth cyn ni, hynny yw. Un broblem gydag addysg yw bod pobol ddim yn gwybod [am hyn

“Mae’r sustem addysg yn cyfyngu’r syniad o ddysgu am newid hinsawdd ai effeithiau go iawn.”

Mae’n cydnabod nad yw un brotest yn “mynd i wneud unrhyw beth” ond mae’n gobeithio mai “dechrau yw hyn i rywbeth a allai fod yn fawr iawn.”

“Ennyn sylw”

Mae Jasmine Ahmed, 17, yn mynychu’r un ysgol a Beth Irving, sef Atlantic College ym Mro Morgannwg, ac yn esbonio eu bod wedi cael caniatâd i adael yr ysgol am y diwrnod.

Cafodd 50 disgybl ganiatâd i fynd, ond mae 100 yn driwant heb ganiatâd, ac mae’n nodi y byddai wedi mynd “ta beth, heb ganiatâd”.

“Daethom i gefnogi hyn gan fod y mater yn un pwysig iawn i ni gyd,” meddai. “Ein nod yw ennyn sylw’r bobol sydd mewn grym.

“Rydym yn protestio i ddweud u dylai newid hinsawdd fod yn rhan anhepgor o’r cwricwlwm yn y Deyrnas Unedig. Dydyn nhw ddim yn dysgu hynna i ni.

“Ac rydym yn protestio yn gyffredinol gyda’r nod o sbarduno newid.”

“Ein byd ni”

O Ysgol Stanwell ym Mhenarth, y daw Niamh Rind, 14, ac mae’n egluro bod y sefydliad wedi gadael i ddisgyblion gymryd rhan.

Daeth y penderfyniad wedi i ddisgyblion gyflwyno llythyr yn gofyn am ganiatâd, meddai.

Mae’n dweud bod yn rhaid “rhoi pwysau ar y genhedlaeth hŷn” a bod angen delio gyda mater yr amgylchedd “heddiw”.

“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n brwydro,” meddai. “Ein byd ni yw hyn, a ni fydd piau’r dyfodol. Os na wnawn ni sefyll i fyny, pwy fydd? Mae mor bwysig bod pobol yn ymwybodol o hyn.

“Ac mae’n bwysig eu bod yn deall nad celwydd yw’r mater, ac yn sylweddoli ar bwysigrwydd yr hyn sy’n digwydd. Dim mater sy’n bell yn y dyfodol yw hyn. Mae’n digwydd yn awr.”