Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i achos o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 76 oed yn ardal Castell-nedd.

Cafodd swyddogion eu galw i eiddo yn Lime Grove, Cimla toc wedi naw o’r gloch neithiwr (dydd Iau, Chwefror 14) yn dilyn adroddiadau o gynnwrf.

Yn ôl llefarydd, mae’r heddlu yn parhau ar y safle ac yn cynnal ymholiadau yn yr ardal.

Mae dyn 27 oed wedi cael ei arestio ac yn y ddalfa.

“Mae ymchwiliad i achos o lofruddiaeth wedi cychwyn ac mae ystafell  ymchwiliad benodol wedi ei sefydlu,” meddai’r Ditectif Prif Arolygydd Darren George.

“Dw i’n apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld neu glywed unrhyw beth yn yr ardal o gwmpas Lie Grove, Cimla neithiwr, yn enwedig rhwng 7hy a 9.30yh, i gysylltu.

“Fe fydd yr heddlu yn bresennol yn yr ardal ac fe hoffwn sicrhau a diolch i’r gymuned leol am eu cymorth hyd yn hyn.”