Mae Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol yn dweud ei fod yn “falch iawn” bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyfrannu £1m at gynllun i sefydlu ‘Archif Ddarlledu Genedlaethol’.

Bu ffrae fawr wedi i’r Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, fynegi pryderon ynghylch cyfrannu’r swm.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cefnogi’r cynllun gwerth £9m ar gyfer creu archif a fyddai’n gartref i hen raglenni radio a theledu, gan gynnwys 160,000 o raglenni’r BBC.

Yn ôl cynlluniau’r llyfrgell yn Aberystwyth, fe fyddai Llywodraeth Cymru a’r BBC yn cyfrannu £1m yr un, y Llyfrgell Genedlaethol yn cyfrannu £2m a’r Loteri Genedlaethol yn cyfrannu £5m.

Croesawu’r cyhoeddiad

“Rydym yn falch iawn bod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno i gefnogi’r prosiect arloesol hwn, sydd yn golygu y gallwn bellach gyflwyno ein cais terfynol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri,” meddai Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, Rhodri Glyn Thomas.

“Fel cartref casgliadau helaeth o ddelweddau sain a delweddau symudol, a chyda deunydd gan ITV Cymru eisoes yn y Llyfrgell, rydym yn bwriadu diogelu’r ffynhonnell hanfodol hon o dreftadaeth ein cenedl ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol.”