Dair blynedd ar ôl dechrau ymgyrch i achub adeilad yn eu pentref, mae rhai o drigolion Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle yn dathlu wrth weld caffi newydd yn agor ynddo.

Yr Orsaf fydd yr enw newydd ar hen Siop Griffiths, sef hen siop nwyddau haearn yng nghanol y pentref.

Gwraig o Ben-y-groes, Pamela Hughes, fydd yn rhedeg y caffi – y cam cyntaf yn y datblygiad – ble mae gobaith y bydd cyfle i ddatblygu Canolfan Ddigidol i bobol ifanc hefyd.

Y fenter

Yn 2016 fe gododd trigolion y pentref dros £50,000 i brynu Siop Griffiths – adeilad oedd yn wag ers 2010, ac a oedd yn cyflym adfeilio.

Mae’r gwaith ar y caffi wedi costio dros £160,000. Daeth £123,000 o grant Cronfa Datblygu Cymunedau Gwledig, £30,000 gan Gyngor Gwynedd, a’r gweddill gan arweinwyr y fenter – Siop Griffiths Cyf.

Ynghyd â’r Ganolfan Ddigidol, mae gobaith y bydd llety yn agor i ymwelwyr yn hwyrach yn y flwyddyn, gyda grant o dros £400,000 gan y Loteri Fawr.

Mae cwmni adeiladu lleol wedi bod yn gweithio ar yr adeilad ers mis Mai, gyda thrigolion lleol hefyd wedi bod yn cyfrannu drwy glirio, glanhau, ac ers y Nadolig, yn paentio ac addurno.

“Cymuned wedi llwyddo”

“Rydym yn falch iawn fod ymdrechion y gymuned wedi llwyddo,” meddai Sandra Roberts, Cadeirydd Siop Griffiths Cyf.

“Gofynnodd trigolion i ni yn 2015 i helpu achub yr adeilad, ac roedd pobol yn barod i gefnogi’r fenter, gyda dros 200 o bobol yn cyfrannu at ei brynu,”

Gyda’r agoriad, bydd Siop Griffiths yn datgelu llun gan yr artist lleol, Luned Rhys Parri, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y caffi.

“Gyda mentrau cymunedol does byth digon o bres, felly rydan ni’n dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu yn y prosiect,” meddai Sandra Roberts.

“Yn ystod y flwyddyn mae pobl wedi cyfrannu 700 awr o oriau gwirfoddol, yn cynnwys paentio pob nos ers Dydd Calan i gael y caffi yn barod.”

Mae deuddeg aelod Bwrdd Siop Griffiths Cyf i gyd yn byw o fewn milltir i’r adeilad, gyda naw ohonyn nhw’n dod o’r ardal yn wreiddiol.