Mae cyfres gomedi newydd BBC Cymru, ‘Pitching In’ wedi cael ei beirniadu unwaith eto, yn dilyn darlledu pennod gynta’r gyfres neithiwr (nos Fawrth, Chwefror 12).

Cafodd y cysyniad ei feirniadu ddechrau’r mis, wrth i’r trêl ymddangos am y tro cyntaf.

Ymateb i’r trêl

Mae’r gyfres yn adrodd hanes y cymeriad Frank Hardcastle (Larry Lamb, un o actorion y gyfres Gavin and Stacey), perchennog maes carafannau ‘Daffodil Dunes’ sydd wedi symud o Loegr i’r Gogledd.

Mewn trêl ar gyfer y gyfres, mae cymeriad benywaidd (Hayley Mills) i’w chlywed yn dweud, “Mae’n hyfryd, galla i weld pam dy fod wedi cwympo mewn cariad â’r lle hwn”.

Mae’r trêl ar gyfer BBC Cymru yn hysbysebu “cyfres gomedi newydd sbon wedi’i gosod yng ngogledd Cymru” – ac mae nifer o bobol wedi dangos eu dicter ar waelod y neges ar y dudalen Twitter.

Ymhlith y cwynion mae portread y gyfres o’r gogledd a’r ffaith fod gan yr actorion acenion y de yn hytrach na’r gogledd, yn ogystal â’r ffordd y mae’n ymdrin â’r mewnlifiad o Saeson i Gymru.

Ymateb wedi’r bennod gyntaf

Yr un yw gwraidd y cwynion yn dilyn darlledu’r bennod gyntaf.

Mae’r bennod yn agor gyda dyn croenddu mewn gwisg derwydd yn gweiddi “Cenedl heb iaith, cenedl heb galon”.

Ar ddechrau’r bennod, acenion Seisnig yn unig sydd i’w clywed, gyda’r sgyrsiau cyntaf yn cylchdroi o amgylch cymeriadau Larry Lamb a Hayley Mills.

Yn ymuno wedyn mae Melanie Walters ac Ifan Huw Dafydd yn siarad ag acen y de, ac yna Ieuan Rhys o Gwm Cynon yn chwarae cymeriad ag acen y gogledd.