Roedd prisiau tai yng Nghymru wedi cynyddu 5.2% yn ystod y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr, yn ôl y Swyddfa Ystadegau a’r Gofrestrfa Dir.

Mae’r gyfradd hon ddwywaith cymaint â’r cyfartaledd cynnydd o 2.5% trwy’r Deyrnas Unedig, y twf arafaf ers mis Gorffennaf 2013.

Mae’n cymharu â thwf o 2.4% yn yr Alban a 2.3% yn Lloegr, gyda Gogledd Iwerddon yn unig yn dangos twf uwch na Chymru – 5.5%.

Mae’r Swyddfa Ystadegau’n dweud mai dileu tollau pontydd Hafren sy’n bennaf gyfrifol am y twf yng Nghymru, a hynny am fod cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a de-ddwyrain Prydain.

Yn Llundain, fel yn nifer o ranbarthau eraill Lloegr, mae’r adroddiad yn dweud bod y gyfradd wedi’i heffeithio’n sylweddol gan y gostyngiad yn nifer y mewnfudwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd a newidiadau mewn trethi.

Wrth ymateb i’r ffigurau, mae arbenigwyr yn dweud bod Brexit yn rhoi pwysau sylweddol ar y farchnad dai, ond fod Cymru ymhlith yr ardaloedd sydd wedi gweld twf arwyddocaol er gwaetha’r amgylchiadau.

Pris cyfartalog tŷ yng ngwledydd Prydain ym mis Rhagfyr oedd £231,000.