Mae ysgol arbennig yn Llandudno wedi cael arian i brynu bws mini gan ŵr busnes sydd wedi derbyn iawndal gan bapur newydd am gyhoeddi anwiredd amdano.

Cytunodd y Daily Mail i wneud cyfraniad at Ysgol y Gogarth ac ysgol anghenion arbennig arall yn Sir Gaer ar ôl gwneud “honiadau anwir ac enllibus” yn erbyn datblygwr eiddo.

Roedd cadeirydd a sylfaenydd Redrow Homes, Steve Morgan, wedi dwyn achos yn erbyn y papur am honiad ei fod wedi prynu tai a oedd i fod ar gyfer teuluoedd ar incwm isel am bris isel ac wedi elwa arnyn nhw’n bersonol.

Doedd dim gwirionedd yn hynny, gan mai sefydliad elusennol yn ei enw, Sefydliad Steve Morgan, oedd wedi prynu’r tai i helpu pobl ar incwm is.

Mewn datganiad, meddai Steve Morgan:

“Mae hon yn fuddudoliaeth bwysig yn erbyn y Daily Mail ac yn un sy’n dangos na all cyhoeddiad argraffu straeon enllibus ac anwir heb sail na rheswm.”

Mae’r papur newydd wedi syrthio ar eu bai ac wedi cyhoeddi ymddiheuriad llawn iddo yn ogystal â’r cyfraniad ariannol i’r ysgolion.