Mae deuddeg sefydliad meddygol wedi dod at ei gilydd heddiw (Dydd Mercher, Chwefror 13) i alw ar i Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Iechyd Cymru roi cefnogaeth ychwanegol i’n doctoriaid ifanc.

Eu gobaith yw helpu doctoriaid o dan hyfforddiant ddod yn arweinwyr y dyfodol, gan wella’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Maen nhw’n galw ar Dr Andrew Goodall, prif weithredwr Gwasanaethu Iechyd Cymru, i ymateb yn ffafriol i geisiadau doctoriaid – yn enwedig rhai o dan hyfforddiant – am waith proffesiynol ychwanegol

Cafodd y llythyr ei lunio gan Wasanaeth Iechyd Cymru, wyth o ymgynghorwyr o naw o’r colegau brenhinol, yn ogystal ag Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru, Cyngor Meddygaeth Gyffredinol Cymru, ac Asiantaeth Meddygaeth Prydain.

Yn ôl Dr Gareth Llywelyn, is-lywydd Coleg Brenhinol Meddygon Cymru, “mae’n rhaid edrych ar ddyfodol” y Gwasanaeth Iechyd.

“Byddai rhoi lle i dyfu i feddygon o dan hyfforddiant yn helpu i gadw mwy ohonynt yng Nghymru yn y tymor hir, a bydd y sgiliau y maent yn eu caffael yn arwain at ofal claf gwell i bawb,” ychwanegodd.

Mae’r sefydliadau hyn sydd wedi creu’r llythyr yn dibynnu llawer ar gyngor, arbenigedd phrofiad meddygon ymgynghorol, arbenigol, ac o dan hyfforddiant.

Yn sgil hynny, mae eu gwaith a’u dyletswyddau yn cyfrannu’n fawr ar ofal claf ac addysg feddygol o ansawdd uchel.