Mae mesur sy’n addo gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed a newid enw’r Cynulliad i ‘Senedd’, wedi cael ei gyhoeddi.
Daw Mesur Senedd ac Etholiadau (Cymru) ar ôl i Aelodau Cynulliad gefnogi cynlluniau ar ei gyfer fis Hydref y llynedd.
Yn ôl Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y gobaith yw y byddai’r mesur yn “sbarduno trafodaeth ddiddorol ac ystyrlon am ein democratiaeth a’n hymgysylltiad gwleidyddol yng Nghymru.”
Bydd newidiadau’r mesur yn golygu y bydd gan pobol ifanc sydd wedi cael eu pen-blwydd yn 16 oed yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad yn 2021.
Ychwanega’r Comisiwn eu bod nhw eisoes yn cydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod mwy o addysg am wleidyddiaeth ar gael mewn ysgolion ar drothwy’r newid yn yr oedran pleidleisio.
“Cyfle euraidd”
“Bydd y ddarpariaeth i ostwng yr oedran pleidleisio i 16, rwy’n gobeithio, yn ennyn diddordeb pobol ifanc yn benodol yn y broses ddemocrataidd,” meddai Llywydd y Cynulliad, Elin Jones.
“Bydd y cynnig i newid enw’r Cynulliad i’r Senedd yn adlewyrchu’n well statws y sefydliad fel senedd.
“Ar ôl ugain mlynedd, mae hwn yn gyfle euraidd i adnewyddu ein democratiaeth a sicrhau bod senedd genedlaethol Cymru yn galluogi i wneud ein gorau ar gyfer ein hetholwyr heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”