Mae dros 2,500 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw am achub ffynnon yn Lerpwl a gafodd ei dylunio gan gerflunydd blaenllaw o Gymru.

Ffrwyth dychymyg Richard Huws o Fôn yw Ffynnon y Piazza, a gafodd ei hadeiladu yn 1967 yn Beetham Plaza ger ardal y dociau yn Lerpwl.

Mae ymgyrchwyr lleol wedi bod yn galw am ei hamddiffyn yn sgil bwriad gan gwmni datblygu o’r enw Elliot Group i adeiladu gwesty yn yr ardal a symud y ffynnon i leoliad arall.

Y cerflunydd

Daeth gwaith Richard Huws (1902-1980), a fu’n byw yn y Talwrn, Ynys Môn, i’r amlwg flynyddoedd ynghynt fel dylunydd y triban i Blaid Cymru yn 1933.

Cafodd ei gomisiynu i ddylunio Ffynnon y Piazza yn 1962, a hynny tra oedd yn ddarlithydd yn yr ysgol bensaernïaeth yn Lerpwl. Cafodd y ffynnon ei dadorchuddio yn swyddogol yn 1967.

Rhwng 1950 a 1979, bu Richard Huws yn gyfrifol am ddylunio wyth o ffynhonnau ar gyfer dinasoedd ledled y byd, gan gynnwys Efrog Newydd, Llundain a Tokyo.

Cafodd pedair ffynnon eu cwblhau, ond mae’n debyg mai prin yw’r rhai sydd wedi goroesi erbyn hyn.

“Unigryw”

Yn ôl trefnwyr y ddeiseb ar-lein, mae’r ffynnon yn cael ei “charu’n fawr gan drigolion lleol” ac yn enwog am ei “haeddiant artistig, diwylliannol a hanesyddol”.

“Mae ein ffynnon, yr ydym ni’n credu sy’n un o’r ddwy ‘bucket fountain’ sy’n dal i fodoli yn y byd, yn mwynhau llif cyson o ymwelwyr sy’n cael eu swyno gan ei golwg a’i sŵn,” meddai’r ddeiseb.

“Rydym ni’n credu na ddylai unrhyw benderfyniad i’w hadleoli gael ei wneud gan ddatblygwr, sydd yn amlwg ddim yn ystyried pwysigrwydd treftadaeth Lerpwl.”

Croesawu syniadau

Mewn datganiad sy’n amlinellu’r bwriad i adeiladu gwesty gwerth £10m, dywed Elliot Group eu bod nhw’n fodlon talu am gostau i symud Ffynnon y Piazza.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod yn awyddus i glywed barn y cyhoedd ynghylch y lleoliad newydd, a hynny wrth iddyn nhw gynnal trafodaethau gyda Chyngor Dinas Lerpwl.

“Mae’n ddarn arbennig o bensaernïaeth ond mae wedi cael ei guddio yn y rhan hon o’r ardal fusnes, ac mae’n haeddu lleoliad sy’n fwy gweladwy fel bod pobol yn gallu ei fwynhau,” meddai Elliot Lawless, cyfarwyddwr y cwmni.