Yn dilyn achos o drywanu mewn ysgol ym Mae Colwyn ddoe, mae llanc yn y ddalfa ar hyn o bryd yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau.

Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i Ysgol Eirias yn y dref ychydig wedi 10 fore ddoe ar ôl adroddiad o ymosodiad gan un disgybl ar un arall.

Aed â’r dioddefwr i’r ysbyty wedi’r digwyddiad, ond mae wedi cael dod adref bellach.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sion Williams: “Drwy drugaredd, mae digwyddiadau o’r math yma’n brin iawn yng ngogledd Cymru, ac rydym yn gweithio gyda’r ysgol ac asiantaethau eraill fel rhan o ymchwiliad sy’n parhau.”