Mae wedi ei gadarnhau y bydd chwaraewr Cymru, Aaron Ramsey, yn ymuno â chlwb Juventus yn yr Eidal.

Y gred yw y bydd y Cymro’n cael cyflog o fwy na £20 miliwn y flwyddyn, sy’n ei osod ymhlith yr hanner dwsin o chwaraewyr mwya’ cyfoethog.

Fe ddywedodd Aaron Ramsey ei hun ar y cyfryngau cymdeithasol y bydd yn parhau i roi ei orau i glwb Arsenal am weddill y tymor cyn mynd i Torino i ddechrau pennod newydd yn ei yrfa.

Fe fydd yn gadael y clwb o Lundain ddiwedd Mehefin ar ôl bod gyda nhw am 11 mlynedd.

Trafodaethau wedi methu

Roedd trafodaethau cytundeb rhyngddo ag Arsenal wedi methu ac mae wedi bod ar gyrion y tîm ers hynny.

Fydd Arsenal ddim yn cael dimai am y chwaraewr oherwydd fod ei gytundeb yn dod i ben – un rheswm pam fod ei gyflog mor uchel.

Roedd nifer o glybiau mawr eraill, gan gynnwys Real Madrid a Paris Saint Germain, wedi dangos diddordeb ynddo.