Bu’n rhaid i fachgen gael ei gludo i’r ysbyty yn dilyn ymosodiad mewn ysgol uwchradd ym Mae Colwyn heddiw.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, fe gawson nhw eu galw i Ysgol Eirias ynghanol y bore ddydd Llun (Chwefror 11) yn dilyn adroddiad bod disgybl wedi ymosod ar un arall.

Cafodd bachgen ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn cael eu hystyried yn rhai a fydd yn newid ei fywyd.

Ychwanega’r heddlu fod yr ymchwiliad yn parhau a bod swyddogion yn siarad â thystion yn y lleoliad.

“Mae yna bresenoldeb cynyddol o’r heddlu yn yr ysgol er mwyn tawelu meddyliau,” meddai Prif Arolygydd Owain Llewellyn.

“Nid oes modd rhoi manylion pellach ar hyn o bryd, ond rydym yn gofyn i bobol beidio â damcaniaethau ar y mater ar y cyfryngau cymdeithasol.”