Mae’r cwmni gweithgareddau antur, Zip World, yn bwriadu agor canolfan newydd yn Rhondda Cynon Taf.

Mae gan y busnes dri safle yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd, a hynny yn Bethesda, Betws y Coed a Blaenau Ffestiniog.

Mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod yr atynfeydd hyn wedi cyfrannu £251m at economi’r gogledd yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

Bydd y safle newydd ger Rhigos, ac mae Zip World eisoes wedi cychwyn ar broses ymgynghori tra bo cais cynllunio yn cael ei baratoi.

Yn ôl Sean Taylor, sylfaenydd a phrif weithredwr y busnes, mae’r datblygiad hwn yn “garreg filltir enfawr” i’r cwmni.

Ychwanega mai’r nod yw “adeiladu lleoliad o safon ryngwladol a fydd yn darparu swyddi lleol a manteision economaidd sylweddol” i’r ardal leol.

“Gyda’r safleoedd yn Blaenau Ffestiniog a Bethesda, rydym ni wedi cael ein cysylltu â llechu Cymreig ac, yn awr, rydym am wneud yr un peth yng nghartref y diwydiant glo yng Nghymru ac adnewyddu’r ardal gydag atyniad gwefreiddiol,” meddai.