Fe fydd cwest i farwolaeth peldroediwr Caerdydd, Emiliano Sala, yn agor yn Llys y Crwner Bournemouth heddiw (dydd Llun, 11 Chwefror).

Roedd y pêl-droediwr o’r Ariannin yn teithio o Nantes i Gaerdydd mewn awyren fechan pan gollodd cysylltiad gyda swyddogion rheoli traffig awyr wrth hedfan dros y Sianel ger Guernsey ar Ionawr 21.

Roedd yr awyren yn cael ei hedfan gan y peilot David Ibbotson, 59 oed.

Cafodd corff Emiliano Sala, 28, ei godi o weddillion yr awyren ar wely’r môr wythnos ddiwethaf a’i gludo i’r lan yn Portland. O ganlyniad, mae’r cwest yn cael ei gynnal yn Dorset.

Mae teulu David Ibbotson hefyd yn ceisio codi arian er mwyn chwilio am gorff y peilot.

Roedd Emiliano Sala newydd arwyddo gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd am £15 miliwn ac yn teithio nôl i ymarfer gyda’r clwb pan fu farw.