Mae’r heddlu wedi arestio dyn 29 oed o Sussex ar amheuaeth o ymosod ar blismon yng Ngheredigion.
Mae’n cael ei amau hefyd o dri achos o ddwyn cerbyd, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.
Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Post-mawr am oddeutu 1.15 brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 9) wedi i blismon gael ei anafu wrth stopio car yn yr ardal.
Maen nhw’n dal i chwilio am ail ddyn, a’r gred yw ei fod e’n dal yn yr ardal.
Mae rhybudd i’r cyhoedd gloi eu cerbydau a’u hadeiladau yn y cyfamser.
Ail ddyn
Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn gwyn sydd, o bosib, yn gwisgo crys-T gwyn a llwyd.
“Rydym yn gofyn i bobol fod yn wyliadwrus, ac nid yn ofnus, gan ein bod ni’n credu bod y dyn hwn yn fwy o fygythiad i’r heddlu na’r cyhoedd ar hyn o bryd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Dylai unrhyw un sy’n gweld unrhyw beth amheus ddeialu 999.