Staff ar y cyflogau lleiaf fydd yn elwa fwyaf o godiadau cyflog Cyngor Sir Gaerfyrddin, yn ôl yr awdurdod lleol.

O fis Ebrill ymlaen mi fydd gweithwyr sy’n derbyn ‘cyflog byw’ (living wage) o £8.75 yr awr yn derbyn codiad o 4.9%.

A bydd aelodau eraill o staff yn cael codiad o 2%.

Dyw’r drefn newydd ddim yn effeithio ar gyflogau athrawon, gan mai trefniadau cenedlaethol sy’n dylanwadu ar eu cyflogau nhw.

Mi dderbyniodd athrawon godiad cyflog o 3.5% ym mis Medi’r llynedd.