Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Owen Smith, yn ceisio “tanseilio” arweinydd ei blaid, yn ôl sylwebydd gwleidyddol blaenllaw.

Yn siarad gyda’r BBC ddoe (Chwefror 7), dywedodd Aelod Seneddol Pontypridd bod “llawer o bobol” yn ystyried gadael y Blaid Lafur, a’i fod yntau hefyd yn “ystyried” gadael y blaid.

Yn ôl Gareth Hughes, mae “egwyddorion” wrth wraidd ei sylwadau, ond mae’r Aelod Seneddol hefyd yn ceisio herio Jeremy Corbyn.

“Rydym ni’n gwybod lle mae Owen Smith wedi sefyll o’r dechrau,” meddai Gareth Hughes wrth golwg360.

“Dydy o ddim eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd, er bod pobol yn ei etholaeth o eisiau. Ond mae o wedi bod yn gyson yn hynny o beth. Dydy o ddim yn hoff o arweiniad Jeremy Corbyn.

“Ac fel rydym ni’n gwybod, mae o wedi sefyll yn ei erbyn o unwaith [am yr arweinyddiaeth]. Ac mae o ochr canol y Blaid Lafur – neu gallwch ddadlau, yr ochr dde…

“Dim [cenfigen] ydy o yn gyfan gwbwl. Mae ganddo fo ryw egwyddorion sy’n ei argyhoeddi na ddylwn fynd allan o’r Undeb Ewropeaidd.

“Ond dw i’n credu bod o yn defnyddio hynny i drio tanseilio Jeremy Corbyn.”

Corbyn

Wrth i Brexit rygnu yn ei flaen, mae Gareth Hughes yn dweud bod Jeremy Corbyn yn wynebu her.

“Mae ganddo fo dasg anodd dros ben,” meddai. “Mae’r aelodau Llafur yng ngogledd Lloegr wedi pleidleisio bron yn unfrydol i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae ganddo fo aelodau o dde Lloegr sydd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Maen nhw i gyd yn yr un blaid. Mae’n rhaid iddo fo ddangos bod o yn medru clymu’r ddau efo’i gilydd.

“Mae o yn gwneud hynny trwy fod yn bendant a dweud: ‘Dyma ein hegwyddorion ni, ond mae’n rhaid i ni wrando ar y bleidlais’.”