Mae nifer y bobol sydd wedi cael eu trywanu i farwolaeth yng Nghymru a Lloegr wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 70 mlynedd, yn ôl adroddiad swyddogol.

Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth y llynedd, roedd 285 o bobol wedi eu lladd gan gyllell neu lafn. Mae hyn yn gynnydd sylweddol i gymharu â’r 73 a gafodd eu lladd o achosion fel hyn yn 2016 a 2018.

Nid yw’r lefel wedi bod mor uchel ers Swyddfa Ystadegau Gwladol ddechrau nodi llofruddiaethau yn 1946.

Y nifer uchel mewn cyn hyn oedd yn y flwyddyn yn gorffen ar fis Mawrth 2008, ble’r oedd 268 o bobol wedi cael eu lladd o ganlyniad i drywaniad.