Mae timau achub sy’n chwilio am Emiliano Sala bellach wedi tynnu corff o awyren sydd wedi’i dryllio ar waelod y môr.

Mae’r achubwyrwedi cadarnhau y bu’n rhaid defnyddio cerbydau arbennig er mwyn cyflawni’r gwaith hwnnw.

Ac er gwaethaf “amodau heriol” mi wnaethon nhw gludo’r corff “gyda chymaint o urddas ag oedd yn bosib” allan o’r môr.

Fe ddiflannodd Emiliano Sala, a’i beilot David Ibbotson, ar Ionawr 21 wrth deithio o Nantes yn Llydaw, i Gaerdydd.

Roedd y pêl-droediwr wedi taro bargen £15m i chwarae â chlwb Caerdydd.  

Yr awyren

Daeth y chwilio swyddogol am Emiliano Sala a David Ibbotson i ben ar Ionawr 24, ond fe lwyddodd teulu’r pêl-droediwr i godi £300,000 er mwyn talu am ymdrech newydd i chwilio amdanyn nhw.

Bellach mae wedi dod i’r amlwg bod gweddillion eu hawyren 67 medr dan y dŵr, a 21 milltir oddi ar arfordir Guernsey yn y Sianel.