Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder yn dilyn adroddiadau yn y wasg y bydd enw a brand Saesneg ar y Senedd.

Fe ddywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, cyn y Nadolig y byddai’r Cynulliad Cenedlaethol yn newid ei enw i un uniaith Gymraeg – Senedd – yn dilyn datganiad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod yn cefnogi hyn.

Ond mae sôn bod carfan yn pwyso am enw Saesneg i’r Senedd, sy’n “destun pryder” i Gymdeithas yr Iaith.

“Mae’r enw Senedd yn un y mae’r cyhoedd yn gyffredinol yn ei ddeall a’i gefnogi, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n eang ymysg siaradwyr Cymraeg a’r di-gymraeg,” meddai Osian Rhys o’r mudiad.

“Mae’n ymddangos bod lleiafrif nawr yn trio pwyso am newid a fyddai’n golygu i bob pwrpas bod gan y Senedd enw dwyieithog.”

Mae cael enw uniaith Gymraeg arno “yn gwthio’r syniad bod y Gymraeg yn gallu cynnwys pawb, o bob cefndir,” meddai wedyn.

“Mae’n gyfle i ddatgan y gallwn ni fod yn Gymru unedig mewn un iaith, waeth beth yw ein cefndir neu’n hiaith gyntaf. Wedi’r cwbwl, uniaith Gymraeg yw ein hanthem genedlaethol, ac mae’n anthem i bawb.”