“Mae’n braf cael y llythrenne yn eu lle,” meddai un o’r criw sydd yn mynd ati i ail-baentio’r geiriau ‘Cofiwch Dryweryn’ ar y wal ger Llanrhystud.

Mae Elfed Wyn Jones yn un o’r rhai sy’n adfer y geiriau hanesyddol ar y wal yn Nhroedrhiw, Llanrhystud ar ôl i enw ‘Elvis’ ymddangos yn eu lle nos Wener.

Mae’r geiriau wedi’u hysgrifennu ar y wal erbyn hyn, a bydd côt o baent arall drostyn nhw ddiwedd yr wythnos hon.

“Rydan ni’n mynd yno eto diwedd wythnos i roi paent ar y llythrenne,” meddai Elfed Wyn Jones mewn neges i golwg360.

Daw ei sylwadau ychydig ddiwrnodau ar ôl iddo ddweud iddo fe a’i ffrindiau gael eu siomi o weld “darn o hanes Cymru yn cael ei difrodi”, a bod hynny wedi’u symbylu i “ymateb yn syth”.

Dilyn ein cydwybod

“Ddaru ni feddwl, os wnawn ni ddim gweithredu, hwyrach na fyddai neb arall yn ei wneud,” meddai Elfed Wyn Jones eto.

“O’i gydwybod ei hun ddaru pawb ei wneud o. Fe wnaethon ni ymateb yn syth i ddangos ein bod ni wedi cael digon o bethau’n cael eu difrodi yn y wlad yma a’r amarch fel yma.

“Fe wnaethon ni ymateb yn syth i ddangos ein bod ni’n barod i weithredu’n gyflym pan fo rhywbeth fel hyn yn digwydd.”