Mae ymgyrchwyr heddwch yng Nghymru yn galw ar wleidyddion i sicrhau bod “pwrpas gwreiddiol” yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei ystyried yn y trafodaethau Brexit.

Yn ôl Cymdeithas y Cymod a CND Cymru, mae ganddyn nhw “bryder” ynghylch penderfyniad yr Unol Daleithiau a Rwsia i dynnu’n ôl o gytundeb arfau niwclear yr INF.

Ar wahân i “oblygiadau moesol” datganiadau’r ddwy wlad, medden nhw, mae’r “goblygiadau moesol” yn ofid hefyd, gan “beryglu holl wledydd Ewrop, gan gynnwys Cymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol”.

“Atal rhyfeloedd gwaedlyd rhwng gwledydd”

“Clywsom sôn diddiwedd am sgil-effeithiau posib Brexit ar bob math o ddiwydiannau, yr economi, yr amgylchfyd ac addysg, ond ble mae’r drafodaeth am heddwch gwledydd Ewrop?” meddai Mererid Hopwood, Cadeirydd Cymdeithas y Cymod.

“Pwrpas gwreiddiol a chanolog yr Undeb Ewropeaidd oedd ac yw atal rhyfeloedd gwaedlyd rhwng gwledydd.”

Ychwanega Jill Evans, Cadeirydd CND Cymru, fod y cytundeb INF wedi arwain tuag at wahardd “dros 2,000” o daflegrau pellter byr a chanolig o Ewrop.

“Mae diwedd y cytundeb yn peri perygl go iawn i ddiogelwch byd-eang,” meddai. “Dydyn ni methu gadael i Ewrop i ddychwelyd nôl i fod yn faes brwydr rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia.

“Rydyn ni eisiau Ewrop sy’n rhydd o arfau niwclear.”