Mae Heddlu’r De yn cynnal ymchwiliad ar ôl i yrrwr car 39 oed gael ei ladd mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore ma (dydd Llun, 4 Chwefror).

Dim ond un car, Audi A6, oedd yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad ar yr A48 ger cylchfan Llaneirwg yng Nghaerdydd tua 3.15yb.

Cafodd y dyn driniaeth ar y safle ond bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Bu’r ffordd ynghau am bedair awr a hanner wrth i’r heddlu gynnal ymchwiliad.