Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud eu bod am wneud “newidiadau sylweddol” i’w weithgareddau pren masnachol yn dilyn adroddiad beirniadol.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu’r adroddiad annibynnol gan yr archwilwyr Grant Thornton a oedd yn dangos bod “methiannau difrifol” yn y ffordd mae’r cwmni yn trin cytundebau coed.

Roedd y methiannau yn golygu bod y corff yn agored i’r “perygl o gael ei dwyllo” meddai’r adroddiad.

Cafodd Grant Thornton eu penodi i gynnal ymchwiliad ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru dynnu sylw at gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Dywedodd Grant Thornton bod “ystod eang o faterion” oedd angen i Gyfoeth Naturiol Cymru fynd i afael a nhw “fel mater o frys.”

Mae’r asiantaeth yn gyfrifol am goetiroedd cyhoeddus ar draws Cymru.

“Cyflawni newid yn hanfodol”

Bydd uwch swyddogion gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru yn trafod yr adroddiad ym Mhwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ar ddydd Llun (Chwefror 11).

Mae Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ystyried y sefyllfa “yn ddifrifol iawn.”

“Gwnaethom addewid y byddem yn cynnal archwiliad trwyadl wrth fynd at wraidd y materion hyn yn ein gweithgareddau pren masnachol.

“Rydym yn derbyn eu canfyddiadau’n gyfan gwbl, sydd wedi ein harwain i roi cynllun gweithredu ar waith i sicrhau bod newidiadau mawr a gwelliannau yn cael eu gwneud.

“Mae cyflawni newid ar raddfa mor eang yn hanfodol wrth sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto,” ychwanegodd.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, maen nhw eisoes yn gwneud gwelliannau fel creu ad-drefniadau ar lefel uwch a sefydlu safonau newydd.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn “gwybod fod yn rhaid inni gael hyn yn gywir.”

“Dywedais yn ein cyfarfod blynyddol â’r diwydiant pren yn ddiweddar fy mod yn teimlo fod cyfnod newydd ar y gorwel yng Nghymru.

“Yn y dyfodol rwy’n disgwyl y bydd ein gweithrediadau coedwigaeth yn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i’r trethdalwr a’r diwydiant.”