Mae timau chwilio wedi dod o hyd i weddillion yr awyren oedd yn cario pêl-droediwr Caerdydd Emiliano Sala a’r peilot David Ibbotson.

Dywedodd David Mearns, sy’n arwain y chwilio sydd wedi cael ei ariannu’n breifat, bod gweddillion yr awyren fechan wedi cael eu darganfod yn gynnar fore dydd Sul (3 Chwefror) ger Guernsey.

Roedd yr awyren Piper Malibu N264DB oedd yn cario Emiliano Sala, 28 oed, a David Ibbotson, 59, wedi diflannu dros y Sianel ar 21 Ionawr wrth deithio o Nantes i Gaerdydd.

Roedd dau gwch, un wedi’i gomisiynu gan y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB),   wedi defnyddio technoleg sonar yn yr ymdrech newydd i ddod o hyd i’r awyren.

Mae teuluoedd y ddau ddyn wedi cael gwybod am y datblygiad diweddara a dywedodd tad Emiliano Sala bod hyn fel “hunllef”.

Cafodd Emiliano Sala ei arwyddo i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd am £15 miliwn yn fuan cyn iddo ddiflannu.

Roedd ei deulu wedi codi £300,000 i dalu am ymdrech newydd i chwilio amdano.